Rwyt ti'n edrych
ar fy llun mewn
cydymdeimlad
Rwyt ti'n gofyn
pan mae hyn yn
gorfod bod
Rwyt ti'n colli
amball ddeigryn
o dosturi
Ac rwyf innau'n
ofni gweld yfory'n dod
Ond fe'm ganwyd
innau'n fab i fy rhieni
Ac mi glywais ddweud
bod pawb yn blant
I Dduw
Rwy'n frawd i ti a
thithau'n frawd i
minnau
O pam na chaf
i hefyd hawl i fyw
Do mi welais y
gwleidyddion yn mynd
heibio
A phob un yn ysgwyd
pen mor ddoeth,
mor lwys
Ac mi welais yr
offeiriad yn penlunio
Cyn fy mhasio am
na dwyf i'n neb o bwys
Ond fe'm ganwyd
innau'n fab i fy rhieni
Ac mi glywais ddweud
bod pawb yn blant
I Dduw
Rwy'n frawd i ti
a thithau'n frawd
i minnau
O pam na chaf
i hefyd hawl i fyw
O fe fy'm i'n chwarae
unwaith gyda'm
ffrindiau
Ond fe'i gwelais i'n
nhw yn mynd o un i un
Mi gollais 'yn nhad
un nos a mam un bore
A'm gadael innai
ar fy mhen fy hun
Ond fe ganwyd innau'n
fab i fy rhieni
Ac mi glywais ddeud
bod pawb yn blant
I dduw
Rwy'n frawd i ti a
thithau'n frawd
i minnau
O pam na chaf
i hefyd hawl i fyw
Ond mi glywais rai
yn son am fynydd
menyn
Ac mi glywais rhai yn
son am lynoedd llaeth
Ond mi wn a fyddech
chi sy'n Gristionogion
Yn cantianau
gwastraffu bwyd a
maeth
Ac fe'm ganwyd
innau'n fab i fy rhieni
Ac mi glywais ddweud
bod pawb yn blant
i dduw
Rwy'n frawd i ti a
thithau'n frawd
I minnau
O pam na chaf i hefyd
Pam na chaf i hefyd
Pam na chaf i hefyd
hawl i fyw
